Mae’r papur briffio hwn, a ddatblygwyd gan Uned Gymorth Asesu Effaith Iechyd Cymru (UGAEIC), yn trafod effeithiau posibl tariffau masnach ar iechyd, llesiant a thegwch ar boblogaeth Cymru. Mae wedi’i anelu at randdeiliaid yng Nghymru sy’n gweithio ym meysydd masnach, iechyd y cyhoedd a gwasanaethau iechyd i’w cefnogi i ddeall yn well yr effeithiau posibl y gall tariffau masnach eu cael ar iechyd y boblogaeth.
Mae’n dechrau gyda chyflwyniad byr i gytundebau masnach, tariffau a rhwystrau masnach nad ydynt yn dariffau. Yna mae’n amlinellu’r cytundebau masnach diweddaraf y mae’r Deyrnas Unedig (DU) wedi ymrwymo iddynt cyn trafod sut y gall tariffau effeithio ar iechyd, llesiant a thegwch y boblogaeth yng Nghymru. Mae’n gorffen gyda rhai opsiynau ar sut y gellir ystyried iechyd a llesiant yn well mewn cytundebau masnach a nodi effeithiau tariffau. Yn olaf, mae’n cyflwyno dau enghraifft astudiaeth achos o sut y gall masnach effeithio ar bobl a’r economi yng Nghymru.