Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi gweithio ar y cyd ag aelodau o Grŵp Llywio’r Cynllun Cyflenwi Llesiant Ariannol ar gyfer Cymru, gan gynnwys y Gwasanaeth Arian a Phensiynau a Llywodraeth Cymru, i nodi’r cysylltiadau rhwng arian a chanlyniadau iechyd yng Nghymru. Mae llesiant ariannol yn un o flociau adeiladu allweddol iechyd a llesiant pobl oherwydd y gall arwain at straen cronig sy’n niweidiol i’n hiechyd corfforol a meddyliol pan fydd pobl yn pryderu am arian. Yma rydym yn tynnu sylw at bwy sy’n cael eu heffeithio fwyaf gan y materion hyn a sut y gall dull iechyd y cyhoedd wella iechyd a llesiant ariannol hirdymor.