Dynodwyd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ar ‘Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’ (WHO CC) ym mis Mawrth 2018 a’i hail-ddynodi am bedair blynedd arall ym mis Mawrth 2022. Y Ganolfan yw’r gyntaf a’r unig WHO CC yn y maes hwn o arbenigedd yn y byd, rhan o rwydwaith byd-eang o fwy nag 800 o Ganolfannau Cydweithredol mewn mwy nag 80 o wledydd. Mae hyn yn adeiladu ar bartneriaeth hirsefydlog gyda Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), gan weithio’n agos gyda Swyddfa Ewropeaidd WHO ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygiad yn Fenis, yr Eidal (Swyddfa Fenis), yn ogystal â swyddfeydd a rhwydweithiau eraill WHO.
Mae WHO CC wedi bod yn datblygu, casglu, defnyddio a rhannu arbenigedd, gwybodaeth, dulliau ymarferol ac offer arloesol ar sut i fuddsoddi er mwyn gwella iechyd a llesiant, lleihau anghydraddoldebau iechyd, adeiladu cymunedau cryfach a systemau cydnerth o fewn a thu hwnt i ffiniau Cymru. Mae’n llywio ac yn hyrwyddo polisïau mwy cynaliadwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth ac sydd wedi’u llywio gan bobl; cofleidio egwyddorion hawliau dynol, tegwch ac amrywiaeth a gwerth cymdeithasol; a helpu i fynd i’r afael ag anghenion iechyd a llesiant cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol, gan ysgogi datblygu cynaliadwy a bywydau llewyrchus i bawb, heb adael neb ar ôl.
Mae ein gwaith yn cefnogi WHO a gwledydd eraill i weithredu Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (y Nodau Datblygu Cynaliadwy), Trydedd Raglen Waith Gyffredinol ar Ddeg Sefydliad Iechyd y Byd 2019–2023, a Rhaglen Waith Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ‘Gweithredu Unedig ar gyfer Iechyd Gwell’ (‘United Action for Better Health’). Ar lefel genedlaethol, mae’n helpu i weithredu ’Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Ffyniant i Bawb: y cynllun gweithredu ar yr economi, a’r cynllun ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Cymru Iachach gan adeiladu ar yr egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb a gwerth cymdeithasol; ystyried yr hirdymor, atal, integreiddio, cydweithio a chyfranogi. Mae gwaith WHO CC yn cryfhau ein cydweithrediadau a’n partneriaethau Ewropeaidd a byd-eang; mae’n galluogi gwaith traws-sectoraidd ac amlddisgyblaeth mwy effeithiol; mae’n cynnig cyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth a gwaith ymchwil, dysgu drwy brofiad ac arfer da; a datblygu ein pobl a’n sefydliadau, gan gyflawni Strategaeth Hirdymor a Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ail-ddynodi WHO CC 2022–2026
Mae rhaglen waith newydd Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd dros bedair blynedd yn canolbwyntio ar ddarparu tystiolaeth ac arbenigedd gwyddonol a pholisi i feithrin capasiti a gweithredu polisïau rhyng-sectoraidd effeithiol ar gyfer iechyd a thegwch ar draws y cwrs bywyd. Mae hefyd yn bwriadu arloesi a harneisio dulliau ac offer economaidd ac amlddisgyblaethol i gefnogi adeiladu Economi Llesiant yng Nghymru, gan drafod a nodi atebion i’r heriau byd-eang bwlch iechyd sy’n ehangu a gwahaniaethau economaidd-gymdeithasol, yr ymateb i COVID-19 ac adfer ohono a newid hinsawdd.
Cylch Gorchwyl (CG) wedi’i Adnewyddu:
CG 1: Darparu tystiolaeth wyddonol a pholisi ac arbenigedd i WHO gan gefnogi cymorth technegol uniongyrchol i Aelod-wladwriaethau i feithrin gallu a gweithredu polisïau rhyng-sectoraidd effeithiol sy’n mynd i’r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd a thegwch ar draws cwrs bywyd.
CG 2: Arloesi a harneisio methodolegau economaidd a dulliau amlddisgyblaethol i gefnogi WHO i roi menter Economi Llesiant ar waith.
CG 3: Darparu tystiolaeth a chefnogi WHO i gynnull deialogau rhanddeiliaid a chreu gofod cyffredin ar gyfer archwilio a nodi atebion i heriau tegwch iechyd hanfodol.
Cynllun Gwaith 2022–2026
Gweithgareddau | Disgrifiad |
---|---|
Gweithgaredd 1 | Darparu cymorth technegol i WHO gan hysbysu a chyflymu camau gweithredu ac atebion ar draws aelod-wladwriaethau i roi tegwch iechyd wrth galon pob polisi a buddsoddiad |
Gweithgaredd 2 | Darparu arbenigedd technegol a mewnbwn i helpu WHO i gryfhau’r achos dros fuddsoddi mewn tegwch llesiant ac iechyd a gweithredu Economi Llesiant ar draws Aelod-wladwriaethau |
Gweithgaredd 3 | Defnyddio tystiolaeth, arferion da a dulliau arloesol i helpu WHO i gryfhau Iechyd a Thegwch ym Mhob Polisi tuag at gyflawni datblygu cynaliadwy, heb adael neb ar ôl |
Gweithgaredd 4 | Cefnogi WHO i wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth a sbarduno buddsoddiad ar gyfer meithrin gallu a gwydnwch i atal adfyd, trawma ac anafiadau ar hyd cwrs bywyd |
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf fel WHO CC, chwaraeodd Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl hanfodol wrth sefydlu a chryfhau rôl sefydliadol a rôl Cymru fel dylanwadwr byd-eang a safle arloesi byw ar gyfer tegwch iechyd a ffyniant i bawb. Mae rhai cyflawniadau allweddol nodedig WHO CC Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnwys:
- Galluogi a chyflawni Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Swyddfa Ranbarthol Ewrop WHO, gan wella amlygrwydd ac effaith Cymru ar y llwyfan byd-eang
- Sefydlu menter genedlaethol gyntaf Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi), gan gymhwyso fframwaith a methodoleg arloesol WHO i helpu i leihau’r bwlch tegwch iechyd yng Nghymru
- Datblygu portffolio o waith i gryfhau’r achos dros fuddsoddi’n gynaliadwy yn iechyd y boblogaeth a lleihau anghydraddoldebau, gan ddatblygu offer, canllawiau a rhwydwaith arloesol
- Datblygu portffolio o waith i fynd i’r afael ag adfyd a thrawma ar draws cwrs bywyd gyda ffocws ar ACEs, atal trais a meithrin gwydnwch
- Datblygu portffolio o waith ar Ddatblygu Cynaliadwy ac Iechyd ym Mhob Polisi, gan lywio polisi ac arfer yng Nghymru ac yn rhyngwladol
Cynllun Gwaith a Chyflawniadau 2018–2022
Teitl y Gweithgarwch | Cynnyrch |
---|---|
Gweithgarwch 1 Datblygu pecyn eiriolaeth ar gyfer buddsoddiad prif ffrwd ar gyfer iechyd a llesiant ar draws polisïau a chyd-destunau. | Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol: Crynodeb Sut i Gyflwyno’r Achos dros Fuddsoddi Cynaliadwy mewn Tegwch Iechyd a Llesiant: Canllaw Ymarferol |
Gweithgarwch 2 Datblygu llwyfan gwybodaeth ac arbenigedd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant | Gosod tegwch iechyd wrth wraidd ymateb ac adferiad cynaliadwy COVID-19 |
Gweithgarwch 3 Ymgorffori datblygiadau cynaliadwy mewn dulliau buddsoddi er mwyn gwella iechyd a thegwch ar draws sefydliadau, systemau a sectorau | Gweithredu’r Egwyddor Datblygu Cynaliadwy: Gwersi o Adolygiad Llenyddiaeth ar Weithredu’r Pum Ffordd o Weithio, Adolygiad llenyddiaeth, Ffeithlun |
Gweithgarwch 4 Gwella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ac ysgogi buddsoddi mewn datblygu capasiti a gwytnwch i atal niwed a thrawma ar hyd y cwrs bywyd. | Canlyniadau iechyd cwrs bywyd a chostau blynyddol cysylltiedig profiadau niweidiol yn ystod plentyndod ledled Ewrop a Gogledd America Atal trais yn yr ysgol: llawlyfr ymarferol Ymholiad arferol am hanes o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACE) Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod mewn poblogaethau plant sy’n ffoaduriaid ac yn geiswyr lloches, Profiadau Niweidiol mewn Plentyndod (ACEs) a Diabetes: Adolygiad byr Arolwg ACEs Carcharorion; Ymateb i Brofiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod |
Gweithgarwch 5 Datblygu fframwaith ar gyfer cymhwyso’r adroddiad Asesu’r Effaith ar Iechyd fel dull pwysig o hwyluso buddsoddiad mewn Iechyd ym Mhob Polisi a dulliau llywodraeth gyfan o ran y cysyniad o elw cymdeithasol ar fuddsoddiad | Goblygiadau Brexit i Iechyd y Cyhoedd yng Nghymru: Ymagwedd Asesu Effaith ar Iechyd |
Gweithgarwch 6 Datblygu adnodd tystiolaeth ar gyfer buddsoddi mewn cydnerthedd cymunedol a chymdeithasol er mwyn gwella iechyd a llesiant ac ysgogi datblygu cynaliadwy | Cadernid – Deall y Rhyngddibyniaeth Rhwng Unigolion a Chymunedau |
Gweithgarwch 7 Datblygu cyfres o achosion ar ddeall effaith globaleiddio a thechnolegau newydd ar iechyd a llesiant yng nghyd-destun dulliau buddsoddi rhyng-sectoraidd | Adroddiad Cyfryngau Cymdeithasol/AmserIFodYnGaredig |
Rhagor o wybodaeth am WHO CC a Chanolfannau Cydweithredol ar draws y byd:
Dysgwch fwy am Ganolfan Gydweithredol WHO a’n gwaith yma a’r fideos canlynol:
Beth yw Canolfan Gydweithredol WHO?
Ar beth fydd y Ganolfan Gydweithredol yn gweithio?
Beth yw ‘Buddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant’?
Dysgwch fwy am fenter Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) yma
Dysgwch fwy am waith WHO CC ar fuddsoddi cynaliadwy a’r Economi Llesiant yma
Cronfa Ddata a Phorth Canolfan Gydweithredol WHO WHOCC – WHO Collaborating Centres