Ymunodd Joe â WHO CC yn 2018 yn cynorthwyo’r Rhaglen Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd. Mae Joe yn rheolwr prosiect profiadol sydd yn darparu cyswllt rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, pedwar llu’r heddlu yng Nghymru, HMPPS a phartneriaid ehangach. Mae Joe hefyd yn rhoi cymorth i’r rhaglen Menywod mewn Cyfiawnder, sydd ag ymagwedd amlasiantaeth tuag at weithredoli Glasbrint Troseddau Menywod yng Nghymru.