Gwneud Lle i Fyd Natur yw Cynllun Bioamrywiaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cadernid ecosystemau.
Mae ecosystemau iach yn hanfodol ar gyfer iechyd a llesiant, yn darparu ein bwyd, dillad a’n meddyginiaethau, yn rheoleiddio aer a dŵr ac yn rheoli clefydau. Fodd bynnag, mae bioamrywiaeth yn dirywio.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn nodi’r gofynion ar gyfer ‘rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy’ ynghyd â ffyrdd newydd o weithio i gyflawni hyn. Yn unol â Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae’n ofynnol ar gyrff cyhoeddus i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hybu cadernid ecosystemau er mwyn gwrthdroi’r duedd hon, fel rhan o Ddyletswydd S6.