Fel rhan o’r rhaglen Gweithredu Cynnar Gyda’n Gilydd (EAT), aeth Heddlu Gogledd Cymru (HGC) ar drywydd y cyfle i ddylunio astudiaeth ymchwil gyda thîm ymchwil EAT, i gasglu tystiolaeth gychwynnol ar alwadau di-frys, i lywio penderfyniadau ymhellach ar sut orau i fynd i’r afael â’r galwadau hyn i gefnogi unigolion bregus trwy drefniadau gweithio amlasiantaethol. Roedd yr astudiaeth hon yn flaenoriaeth i HGC amlinellu meysydd sy’n seiliedig ar dystiolaeth i’w hystyried; i helpu i lunio argymhellion ar gyfer ymyrraeth gynnar sy’n targedu galwyr bregus a lleihau’r galw yn y dyfodol.