Mae Kat yn Swyddog Ymchwil yn Uned Gydweithio Iechyd y Cyhoedd (PHCU) ym Mhrifysgol Bangor. Mae Kat yn ymchwilydd dulliau cymysg sydd ag arbenigedd mewn atal trais, yn enwedig profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs). Mae hi hefyd yn eistedd ar banel adolygu Moeseg Ysgol Iechyd a Gwyddorau Meddygol Prifysgol Bangor. Cyn hyn bu Kat yn gweithio yn ICC fel arweinydd ymchwil ar gyfer y prosiect Ymyrraeth Gynnar ac Atal a ariannwyd gan Gronfa Arloesi’r Heddlu. Cwblhaodd Kat ei PhD ym Mhrifysgol Lerpwl, a oedd yn archwilio yfed alcohol ymhlith menywod yn ystod beichiogrwydd yn yr Alban. Yn ei hamser hamdden mae’n mwynhau pobi a gwneud crochenwaith.