Logo Prifysgol Bangor University

Mae Uned Gydweithredu Iechyd Cyhoeddus, a sefydlwyd yn 2017 ac a leolir yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, yn darparu adnodd hyblyg ac effeithlon ar gyfer cymorth ymchwil, gwerthuso a datblygu polisi i’r Gyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol a, drwy’r Gyfarwyddiaeth, i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG ehangach. Mae’r gwasanaeth iechyd y cyhoedd unigryw a’r cydweithredu academaidd a ddarperir gan Uned Gydweithredu Iechyd Cyhoeddus yn creu mwy o gyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth, gwerthuso ymarfer, llywio polisi ac i ddatblygu capasiti a chydweithrediadau iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac yn rhyngwladol.  Gan ffurfio rhan o Dîm Prosiectau Arbenigol y Gyfarwyddiaeth, mae Uned Gydweithredu Iechyd Cyhoeddus yn cefnogi gwaith rhyngwladol y Gyfarwyddiaeth ar atal trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac yn datblygu gwaith ar faterion a dulliau iechyd y cyhoedd newydd drwy arolygon o’r boblogaeth, adolygiadau tystiolaeth systematig a gwerthusiadau o ymyriadau. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Karen Hughes drwy [email protected].

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ymateb yn Gymraeg heb oedi.

Ein Gwaith Arweinydd: Karen Hughes

Yr hyn rydym yn ei wneud:

Mae UGIC yn darparu adnodd hyblyg ac effeithlon ar gyfer asesu cyflym, gwerthuso a chymorth datblygu polisi a gwasanaeth i Ganolfan Gydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd a thrwy’r Ganolfan, i Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r GIG ehangach.

Yr hyn rydym wedi’i wneud:

Mae gwaith diweddar yn cynnwys gweithredu arolygon iechyd y cyhoedd cenedlaethol; gwerthuso menter gweithgarwch corfforol yn y gweithle genedlaethol; mesur nifer yr achosion o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) mewn poblogaeth o droseddwyr; gwerthuso datblygiad ymarfer wedi’i lywio gan ACE mewn lleoliadau cyfiawnder troseddol; a chefnogi gwaith ar newid yn yr hinsawdd ac iechyd y cyhoedd.

Mae gwaith cyfredol yn cynnwys: amcangyfrif baich iechyd ac ariannol ACEs yng ngwledydd Ewrop; cefnogi arolygon poblogaeth ar iechyd a lles yn ystod COVID-19 ac ACEs; a chynnal adolygiadau systematig ar faterion sy’n cynnwys ACEs a diweithdra a chysylltiadau rhwng clefydau trosglwyddadwy ac anhrosglwyddadwy.