Ymunodd Sue â Chanolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ym mis Tachwedd 2021 fel Cynorthwyydd Personol i Claire Beynon, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd. Cyn ymuno â’r sector cyhoeddus, bu Sue yn gweithio yn y Diwydiant Gweithgynhyrchu am 22 mlynedd, gan ddarparu cymorth gweinyddol fel Cynorthwyydd Personol i’r Grŵp Diogelwch, Iechyd ac Amgylcheddol Byd-eang. Mae Sue yn mwynhau gwarchod ei hŵyr, mynd â’i chi am dro, darllen a threulio amser gyda’i merch.