Ymunodd Sheena â chyfarwyddiaeth Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd (WHO CC) ym mis Tachwedd 2021 ac mae’n gyfrifol am ddatblygu, gweithredu a gwerthuso cynlluniau cyfathrebu a marchnata cymdeithasol i gefnogi targedau cyflawni allweddol y Gyfarwyddiaeth. Bydd Sheena yn gweithio gyda Thîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru i fanteisio i’r eithaf ar effaith gweithgarwch cyfathrebu a marchnata cymdeithasol ar gyfer cyhoeddiadau Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd.
Cyn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, enillodd Sheena 15 mlynedd o brofiad wrth weithio mewn rolau rheoli cyfathrebu ac ymgysylltu â’r gymuned ar gyfer sefydliad mawr dielw yng Nghymru. Mae gan Sheena BA Anrhydedd mewn Busnes Rhyngwladol a TAR o Brifysgol Cymru ac yn flaenorol roedd ganddi swydd fel darlithydd rhan-amser yng Ngholeg Morgannwg.
Yn ei hamser hamdden, mae Sheena yn mwynhau uwchgylchu dodrefn, mynd a’i chŵn am dro a mwynhau’r golygfeydd Cymreig hardd gyda’i gŵr a’i hwyres.