Nod y papur trafod yw helpu i lywio gweithredu pellach o ran polisi ac atebion posibl er mwyn lleihau’r bwlch iechyd yng Nghymru a thu hwnt.
Mae’n rhoi cipolwg ar yr anghydraddoldebau iechyd a brofwyd gan grwpiau gwahanol o’r boblogaeth yn y blynyddoedd yn arwain at bandemig Coronafeirws (COVID-19), gan ddefnyddio methodoleg ystadegol arloesol, ‘Dadansoddi dadgyfansoddiad’.
Mae’r papur yn ceisio meintioli’r bwlch iechyd yng Nghymru, yn ogystal â rhoi dealltwriaeth well o’i brif ysgogwyr ar draws y pum amod hanfodol ar gyfer bywydau ffyniannus i bawb, gan ddefnyddio fframwaith newydd gan Sefydliad Iechyd y Byd. Mae’n defnyddio tri mesur iechyd hunangofnodedig: 1) mynychder iechyd gweddol/gwael; 2) mynychder lles meddwl isel; a 3) mynychder bodlonrwydd bywyd isel, gan gymharu’r rhain rhwng:
• Y rheiny sydd yn gallu gwneud arbediad o £10/mis o leiaf a’r rheiny nad ydynt yn gallu gwneud hynny;
• Y rheiny sydd yn nodi amddifadedd materol a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny; a
• Y rheiny sydd yn nodi salwch, anabledd neu eiddilwch cyfyngus hirdymor a’r rheiny nad ydynt yn gwneud hynny.
Mae’r dadansoddiad wedi creu mewnwelediad i ysgogwyr annhegwch iechyd, gan nodi’r rheiny sy’n cyfrannu fwyaf, sef ‘Cyfalaf Cymdeithasol a Dynol’ a ‘Diogelwch Incwm ac Amddiffyniad Cymdeithasol’; tra bod ‘Gwasanaethau Iechyd’ wedi rhoi cyfrif am y lleiaf. Fodd bynnag, mae gwahaniaethau systematig yn gallu esbonio llai na hanner (<50%) y bylchau iechyd ar gyfer y rhan fwyaf o’r canlyniadau iechyd, yn seiliedig ar y modelau ystadegol.
Mae’r papur yn amlygu’r angen am fasged o benderfyniadau polisi a buddsoddi, gan flaenoriaethu prif ysgogwyr annhegwch iechyd, mewn cytundeb ar draws sectorau. Mae archwilio ac ymgysylltu pellach gydag arbenigwyr, rhanddeiliaid, grwpiau a chymunedau perthnasol yn hanfodol i wella dealltwriaeth o’r bwlch tegwch iechyd a’i ysgogwyr.
Mae’n gobeithio llywio’r rhanddeiliaid cenedlaethol a rhyngwladol canlynol:
• Gweithwyr iechyd y cyhoedd proffesiynol
• Gwneuthurwyr polisïau a deiliaid cyllidebau ar lefelau cenedlaethol a lleol
• Ystadegwyr, gwyddonwyr iechyd a dadansoddwyr data
• Pawb sydd â rôl yn dylanwadu ar y bwlch tegwch iechyd yng Nghymru a thu hwnt