Ymunodd Lauren â’r Uned Atal Trais ym mis Medi 2022 yn y rôl Cymorth Cyfathrebu, a hi yw Cynrychiolydd Llesiant y tîm hefyd. Graddiodd Lauren yn ddiweddar o’r brifysgol gyda gradd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu ac ar hyn o bryd mae’n gweithio tuag at radd Meistr mewn Marchnata. Y tu allan i’r gwaith ac astudio, mae Lauren yn mwynhau darllen llyfrau hunangymorth, gwylio’r machlud ac ail-wylio rhaglenni sy’n rhoi cysur iddi.