Y Calendr Cryno Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu hwn yw’r trydydd yn y gyfres, yn dilyn y Calendrau Cryno o 2020/21 a 2021/22. Mae’r Calendr Cryno hwn wedi coladu, cyfosod a chyflwyno crynodeb clir a chryno o’r pum Adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol dros y flwyddyn ddiwethaf, ers Ebrill 2022 hyd at Fawrth 2023. Yn ogystal, mae’r ddau adroddiad cryno (a gyhoeddwyd yn 2022) wedi’u cynnwys. Mae’r llif gwaith Sganio Gorwelion Rhyngwladol a Dysgu wedi dangos ei fod yn arddangos ymchwil addysgiadol ac effeithiol wrth goladu data o wledydd eraill, gan ddarparu arweiniad, argymhellion a mewnwelediadau defnyddiol ynghylch natur esblygol ac ansicrwydd pynciau iechyd y cyhoedd sy’n dod i’r amlwg, sydd wedi ceisio gwella a llywio gweithredoedd a dulliau o’r fath yng Nghymru.
Nod y crynodeb yw llywio trosolwg cryno o weithredu polisi cynhwysfawr, cydlynol, cynhwysol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd wedi cefnogi’r strategaethau cenedlaethol tuag at Gymru iachach, mwy cyfartal, cydnerth, llewyrchus a chyfrifol yn fyd-eang, ac sy’n parhau i wneud hynny. Mae’r calendr hwn yn cynnwys negeseuon allweddol ac argymhellion allweddol o dudalennau synthesis lefel uchel pob adroddiad Sganio Gorwelion Rhyngwladol.
Mae’r themâu’n cynnwys:
• Gofal canolraddol
• Yr argyfwng costau byw
• Diogelu’r amgylchedd addysgol rhag COVID: 4-18 oed
• Addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar
• Ymgyrchoedd cyfathrebu ar gyfer derbyn brechlynnau
• Effaith COVID-19 ar iechyd meddwl a bregusrwydd cynyddol
• Effaith COVID-19 ar ehangu’r bwlch iechyd a bregusrwydd