Mae cyflawni Cymru Fwy Cyfartal yn un o’r saith nod a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ddeddf yn rhoi’r pum ffordd o weithio i gyrff y sector cyhoeddus yng Nghymru a fydd yn ein cefnogi i wneud gwell penderfyniadau heddiw ar gyfer Cymru Fwy Cyfartal yfory. Daeth Dyletswydd Economaidd-Gymdeithasol Llywodraeth Cymru i rym yn 2021 a’i nod yw sicrhau canlyniadau gwell i’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol.
Nod y Canllaw hwn yw helpu cyrff cyhoeddus yng Nghymru i gymhwyso’r Ddyletswydd Economaidd-Gymdeithasol fel y gall weithredu fel ysgogiad pwerus i wella canlyniadau iechyd i bobl a chymunedau sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae gan gyrff cyhoeddus gyfle i ymgorffori’r Ddyletswydd yn eu systemau a’u dulliau gweithredu er mwyn sicrhau bod y Ddyletswydd yn gwneud gwahaniaeth systematig ac nad ymarfer ticio blychau yn unig mohono.
Mae animeiddiad cysylltiedig hefyd ar gael trwy’r dolenni isod.