Mae Jessica wedi ymuno â Hyb ACE Cymru fel Rheolwr Prosiect, gan weithio gyda sefydliadau ledled Cymru er mwyn iddynt ddod yn ystyriol o Drawma ac ACE trwy weithredu’r pecyn cymorth ‘TrACE’. Mae hi’n edrych ymlaen at weithio gydag ystod amrywiol o sectorau a chreu’r amodau a’r adnoddau ar gyfer dull cynaliadwy o fod yn ystyriol o TrACE. Ymunodd Jessica ag Iechyd Cyhoeddus Cymru am y tro cyntaf yn 2021 gan weithio ym maes gwella a sicrhau ansawdd; yn y rôl hon roedd yn gallu cydweithio â thimau o bob rhan o Iechyd Cyhoeddus Cymru i ysgogi gwelliannau yn eu gwaith. Mae ganddi radd meistr mewn iechyd y cyhoedd o Brifysgol Manceinion, a’i phrif ddiddordebau yw datblygiad cymunedol, polisi iechyd y cyhoedd, a gwella iechyd a thegwch mewn cymunedau nas clywir ganddynt yn aml. Y tu allan i’r gwaith, mae Jessica wrth ei bodd yn rhedeg ar lwybrau, yn teithio ymhell ac agos ac yn treulio ei hafau mewn gwyliau cerddoriaeth.