Mae menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd Cymru (WHESRi) wedi cyhoeddi blog erthygl sbotolau i goffau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae’r erthygl sbotolau hon yn canolbwyntio ar degwch rhwng y rhywiau yng Nghymru, gan bwysleisio’r penderfynyddion cymdeithasol ac economaidd sy’n effeithio ar lesiant menywod. Mae’n amlygu anghydraddoldebau parhaus rhwng y rhywiau ar draws meysydd amrywiol, gan gynnwys iechyd, cyflogaeth, a thrais, sy’n cael eu gwaethygu gan ffactorau fel hil, anabledd a statws economaidd. Er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn, mae angen polisïau sy’n ymateb i rywedd, cyllidebu sy’n gynhwysol o ran rhywedd a fframwaith Economi Llesiant i hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol a grymuso menywod tuag at ddyfodol iachach a mwy llewyrchus yng Nghymru.