Cydnabyddir yn fyd-eang bod Profiadau Niweidiol yn Ystod Plentyndod (ACEs) yn ffactor risg ar gyfer problemau yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae ymwybyddiaeth o ACEs a thrawma cysylltiedig yn cynyddu mewn ysgolion a lleoliadau addysgol, yn ogystal â’r galw am wasanaethau cefnogol i fynd i’r afael ag anghenion. Fodd bynnag, mae diffyg tystiolaeth glir o ymyriadau effeithiol y gellir eu darparu gan rai nad ydynt yn glinigwyr (e.e. staff yr ysgol).
Datgelodd yr adolygiad systematig hwn o bump ar hugain o astudiaethau dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg o effaith ymyriadau sy’n cael eu darparu gan rai nad ydynt yn glinigwyr ar wella canlyniadau iechyd meddwl mewn pobl ifanc sydd wedi profi ACEs. Yn benodol, tystiolaeth o effeithiolrwydd grwpiau seiliedig ar Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ac ymyriadau sy’n cynnwys rhai sy’n rhoi gofal.