Mae’r ‘Archwiliad manwl o wlad ar yr economi llesiant: Cymru’ yn rhan o gyfres o archwiliadau manwl a gyhoeddwyd o dan y Fenter Economi Llesiant Ewropeaidd dan arweiniad y Swyddfa Ranbarthol WHO Ewrop ar gyfer Buddsoddi a Datblygu. Datblygir pob cyhoeddiad yn y gyfres trwy gyfuno llenyddiaeth academaidd a llenyddiaeth lwyd â naratifau o gyfweliadau lled-strwythuredig a gynhaliwyd gyda rhanddeiliaid allweddol yn y llywodraeth a sefydliadau iechyd y cyhoedd, gyda’r nod o ddangos profiadau gwlad diriaethol wrth hyrwyddo a gweithredu economïau llesiant.
Mae’r archwiliad manwl hwn yn canolbwyntio ar ddull Cymru. Mae’n rhoi cyd-destun i ymrwymiad Cymru i’r agenda economi llesiant, ac yn nodi cysyniadau a strategaethau allweddol, strwythurau a mecanweithiau llywodraethu, rôl iechyd (y cyhoedd), a dulliau o fesur a monitro cynnydd. Mae’n amlygu’r ysgogwyr a’r rhwystrau y mae Cymru wedi dod ar eu traws ar y llwybr tuag at economi llesiant. Er nad yw profiad Cymru yn gynrychioliadol nac yn hollgynhwysfawr, gall gwledydd sy’n ystyried neu yn y broses o symud i economi llesiant edrych ar y canfyddiadau allweddol hyn a mynd â negeseuon polisi gyda hwy i gael ysbrydoliaeth.