Dangoswyd bod trallod yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â llesiant meddyliol gwaeth, gyda rhai astudiaethau’n awgrymu y gall arwain at lai o ymddiriedaeth yng ngwasanaethau iechyd a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Nododd ymchwil a gynhaliwyd gydag oedolion yng Nghymru fod petruster brechu deirgwaith yn uwch ymhlith pobl a oedd wedi profi pedwar neu ragor o fathau o drawma yn ystod plentyndod nag ydoedd ymhlith y rhai nad oedd wedi profi unrhyw fath o drawma yn ystod plentyndod.