
Mae’r papur hwn yn cyflwyno dadansoddiad data eilaidd o Amser i Siarad Iechyd y Cyhoedd.
Archwiliodd yr astudiaeth hon wybodaeth ganfyddedig o’r menopos, ymwybyddiaeth o symptomau’r menopos, effeithiau negyddol canfyddedig y menopos ar fywydau menywod, ac agweddau tuag at y menopos. Dywedodd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr nad oedd ganddynt lawer o wybodaeth am y menopos, ond roeddent yn ymwybodol o symptomau ‘ystrydebol’ fel pyliau o wres a newidiadau mewn hwyliau. Mae’r astudiaeth hon yn amlygu gwahaniaethau mewn gwybodaeth ac agweddau tuag at y menopos yn ôl demograffeg gymdeithasol wahanol (e.e. oedran, rhywedd). Mae angen rhagor o dystiolaeth a dealltwriaeth ar y menopos, gan y rhai sy’n wynebu’r menopos a’r rhai nad ydynt yn wynebu’r menopos, i gefnogi menywod i gael profiad mwy cadarnhaol.