Gan ragweld y newidiadau a wnaed gan y Ddeddf Ddedfrydu (2026), fe wnaeth Rhaglen Iechyd Cynhwysiant Clefydau Trosglwyddadwy (CDIHP) ac Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (UGAEIC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) gynnal gweithdy cyfranogol gyda gweithwyr proffesiynol o bob rhan o’r system cyfiawnder troseddol i lywio Asesiad o’r Effaith ar Iechyd (AEI).

Roedd y gweithdy’n edrych ar oblygiadau diwygiadau’r DU ar ofal iechyd mewn carchardai a lleoliadau cymunedol (ill dau yn faterion sydd wedi’u datganoli yng Nghymru), gan nodi pa grwpiau o’r boblogaeth sy’n debygol o deimlo’r effaith, a pha brif benderfynyddion iechyd a llesiant sy’n debygol o gael eu dylanwadu. Mae’r crynodeb hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r AEI (Rhan 1) a mae adroddiad technegol manylach (Rhan 2) ar gael ar wefan UGAEIC.

Bydd canfyddiadau’r AEI yn llywio datblygiad polisïau a chyflenwad gwasanaethau i unigolion o fewn y system cyfiawnder troseddol a grwpiau eraill a fydd yn teimlo’r effaith, gan annog ystyriaeth o effeithiau iechyd posibl i liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar iechyd a llesiant.

Awduron: Adam Davies, Benjamin J. Gray+ 3 mwy
, Liz Green, Kathryn Ashton, Stephanie Perrett
Chwilio'r holl adnoddau