
Mae’r E-Ganllaw Gwerth Cymdeithasol ar gyfer Iechyd Cyhoeddus yn adnodd cam wrth gam sy’n esbonio sut i ddefnyddio dulliau sydd â ffocws cymdeithasol i wneud penderfyniadau a phennu blaenoriaethu ariannol.
Ei nod yw cefnogi rhanddeiliaid gan gynnwys ymarferwyr, ymchwilwyr a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddeall a chofnodi gwerth cymdeithasol yr ymyriadau a’r gwasanaethau y maent yn eu dylunio a’u darparu.
Mae’r E-Ganllaw yn cyflwyno dulliau ac adnoddau i fabwysiadu ymagwedd gwerth cymdeithasol gan gynnwys dulliau fel Enillion Cymdeithasol o Fuddsoddiad a Dadansoddiad Costau Buddion Cymdeithasol, wedi’u teilwra’n benodol i’r cyd-destun iechyd cyhoeddus.