Mae’r adroddiad hwn yn archwilio sut y gall gwahanol gydrannau gwasanaethau gofal brys helpu i leihau’r pwysau ar adrannau brys a chefnogi annibyniaeth cleifion. Gan alw ar yr ymchwil ddiweddaraf drwy adolygiad gwib systematig a mewnwelediadau rhyngwladol, mae’n tynnu sylw at arferion gorau o bob rhan o’r DU ac yn fyd-eang er mwyn llywio dyluniad gwasanaethau gofal brys yng Nghymru. Mae’r adolygiad yn cynnwys ystod o elfennau gwasanaeth gofal brys, gan gynnwys:
• Strategaethau newid tasgau i optimeiddio capasiti ac effeithlonrwydd y gweithlu
• Gwell mynediad at wasanaethau diagnostig, fel radioleg
• Offer clyfar fel brysbennu digidol a systemau cynorthwyo penderfyniadau i staff
• Ehangu canolfannau gofal/triniaeth frys ar gyfer gofal amserol a phriodol
• Gofal brys rhithwir, gan gynnwys ymgynghoriadau ffôn a fideo am gyngor brys
Ynglŷn â’r adolygiad:
Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gall gwasanaethau gofal brys a ddylunnir yn dda ddarparu gofal mwy diogel, cyflym ac effeithiol. Er bod angen rhagor o ymchwil, mae’r dystiolaeth yn tynnu sylw at gyfle addawol i leddfu’r pwysau ar ysbytai a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.
Gwaith ar y cyd yw hwn rhwng y Gwasanaeth Tystiolaeth (Cyfarwyddiaeth Ymchwil, Data a Digidol) a’r tîm Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol (Cyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant).