
Gall lleoliadau gofal y tu allan i’r cartref gael effaith ddofn ar blant, eu teuluoedd a chymdeithas. Mae’r adolygiad systematig hwn yn crynhoi canfyddiadau adolygiadau presennol ar ffactorau sy’n gysylltiedig â mynediad ac ail-fynediad at ofal y tu allan i’r cartref.
Mae’r dystiolaeth yn tynnu sylw at ffactorau allweddol sy’n gysylltiedig â mynediad at ofal y tu allan i’r cartref, sy’n cynnwys ffactorau ar lefel y plentyn (ethnigrwydd, iechyd, ymddygiad), ffactorau ar lefel y teulu (anhawsterau economaidd-gymdeithasol rhieni, camddefnyddio sylweddau), ffactorau ar lefel y gymuned (amodau cymdogaeth), a ffactorau ar lefel y system (ymwneud blaenorol â llesiant plant). Mae’r adolygiad hefyd yn nodi sawl ffactor sy’n gysylltiedig â phlant yn aros gyda’u teuluoedd genedigol ac nid yn mynd at ofal y tu allan i’r cartref.
Mae ffactorau sy’n gysylltiedig â mynediad at ofal y tu allan i’r cartref yn ystod plentyndod yn amlochrog ac yn gymhleth. Mae cyfle i lunwyr polisi ac ymarferwyr fabwysiadu ymyriadau ataliol a holistaidd i hyrwyddo llesiant a sefydlogrwydd plant a theuluoedd.