Comisiynwyd y ffeithlun hwn, ‘Cymru a’r nodau byd-eang: Sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl’ gan yr Hwb Iechyd a Chynaliadwyedd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddarparu crynodeb cefndirol o ddulliau Cymru a’r byd ar gyfer datblygu cynaliadwy, gan gynnwys y camau i gyflawni’r agenda fyd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’r ffeithlun hwn hefyd yn darparu gwybodaeth am elfennau o ddull Cymru, gan gwmpasu’r canlynol:
• Adolygiad llenyddiaeth o wreiddio Egwyddor Datblygu Cynaliadwy Cymru (‘pum ffordd o weithio’)
• ‘Adroddiad Llesiant Cymru’ blynyddol ar gynnydd tuag at ddatblygiad cynaliadwy
• Dangosyddion cenedlaethol Cymru i fesur cynnydd
• Astudiaeth achos fer ar ddull ‘Iechyd ym mhob Polisi’ Cymru ar gyfer polisi cyhoeddus