Mae gwerthusiad a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn Abertawe yn archwilio’r dull system gyfan Uned Atal Trais Cymru o atal trais, sy’n darparu gwersi allweddol ac ystyriaethau ar gyfer datblygu partneriaethau atal trais lleol.
Wedi’i gynnal gan Sefydliad Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol John Moores Lerpwl, mae’r gwerthusiad yn darparu gwersi pwysig ar sut i roi gweithgarwch atal trais ar waith yn lleol er mwyn diwallu anghenion lleol wrth adeiladu strwythurau sy’n galluogi’r gwaith hwn i ddylanwadu ar y system ehangach.
Mae’r gwerthusiad yn cynnwys dwy ran, gydag un gwerthusiad yn canolbwyntio ar y dull system gyfan yn Abertawe, ac un yng Nghaerdydd, sy’n gyfanswm o bedwar adroddiad llawn. Er mwyn cefnogi partneriaid i dynnu o’r gwerthusiadau hyn, gwnaeth yr Uned Atal Trais grynhoi’r prif ganfyddiadau ac argymhellion mewn un adroddiad crynhoi.