Mae’r ymchwil, a gwblhawyd gan Uned Atal Trais Cymru gyda chyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn tynnu sylw at y ffordd y mae COVID-19 wedi arwain at nifer o heriau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys newidiadau i arferion bob dydd, tarfu ar addysg a llai o gyfleoedd i fanteisio ar wasanaethau cymorth a gweithgareddau cymdeithasol. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod yr heriau hyn, ynghyd â ffactorau eraill megis bywyd cartref a phryderon am lesiant a oedd yn bodoli eisoes, yn debygol o fod wedi cynyddu’r risg o brofi trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn arbennig ymhlith y plant a’r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed.