Amcangyfrifodd yr astudiaeth hon, a gyhoeddwyd yn BMJ Open, gostau profiadau ACE yng Nghymru, Lloegr a rhanbarthau Lloegr yn 2023. Cyfunodd yr astudiaeth ddata o ddeg arolwg ACE i gyfrifo ffracsiynau sydd i’w priodoli i’r boblogaeth ar gyfer profiadau ACE ar gyfer pedwar risg iechyd (ysmygu, defnydd uchel o alcohol, defnydd o gyffuriau a mynegai màs y corff uchel) a saith achos afiechyd (trais, salwch meddwl, canser, diabetes math 2, clefyd y galon, clefyd anadlol a strôc). Defnyddiodd ddata o astudiaeth Baich Clefydau Byd-eang 2023 i amcangyfrif Blynyddoedd o Fywyd a Addaswyd yn ôl Anabledd y gellir eu priodoli i brofiadau ACE a’u costau ariannol cysylltiedig, trwy ddefnyddio dull blynyddoedd o fywyd ystadegol. Roedd y costau amcangyfrifedig y gellir eu priodoli i brofiadau ACE yn £7.8 biliwn i Gymru a £115.6 biliwn i Loegr; roedd y costau amcangyfrifedig ar gyfer rhanbarthau Lloegr yn amrywio o £6.3 biliwn (gogledd-ddwyrain Lloegr) i £18.0 biliwn (de-ddwyrain Lloegr).

Awduron: Karen Hughes, Kat Ford+ 3 mwy
, Mark A Bellis, Zara Quigg, Joanne C. Hopkins
Chwilio'r holl adnoddau