Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol, gan adael pobl â llai o wydnwch i heriau iechyd gydol eu hoes. Mae’r astudiaeth hon yn archwilio a yw lefelau iechyd meddwl, iechyd corfforol ac ansawdd cwsg unigolion a’r newidiadau yn y lefelau a adroddwyd yn ystod blwyddyn gyntaf y pandemig COVID-19 yn gysylltiedig ag ACEs ac a ydynt yn cael eu lleddfu gan asedau cymdeithasol megis cael teulu a ffrindiau y gellir ymddiried ynddynt.