Mae’r adroddiad hwn, Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol, yn archwilio tystiolaeth fyd-eang ynghylch atal dementia a phwysigrwydd cefnogi iechyd yr ymennydd drwy gydol bywyd unigolyn.
Mae’r adroddiad yn adolygu’r arferion gorau yn rhyngwladol ac yn tynnu sylw at ddulliau llwyddiannus mewn gwledydd sy’n cynnwys y Ffindir, Japan, De Corea, Uruguay, a’r Deyrnas Unedig.
Negeseuon allweddol:
Nid yw dementia yn rhan anochel o heneiddio. Gallai mynd i’r afael â’r ffactorau risg y gellir eu haddasu drwy gydol bywyd unigolyn atal hyd at 45% o’r achosion. Mae gwaith atal effeithiol yn gofyn am gamau gweithredu integredig ar dair lefel:
1. Mae ymyriadau mewn perthynas â newid ymddygiad ar un elfen yn parhau’n seiliau hanfodol, ac yn targedu ffactorau risg unigol fel anweithgarwch corfforol, ysmygu, ynysigrwydd cymdeithasol, camddefnyddio alcohol a cholli clyw neu olwg heb ei drin.
2. Mae ymyriadau mewn perthynas â nifer o elfennau sy’n targedu ffactorau risg lluosog, wedi’u clystyru, yn cynrychioli’r strategaeth fwyaf addawol.
3. Mae mesurau strwythurol ar lefel y boblogaeth fel polisïau ariannol, deddfwriaeth, cyfyngiadau marchnata, ac addasiadau amgylcheddol yn hanfodol i ategu dulliau sy’n seiliedig ar ffordd o fyw.