Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol arolwg o oedolion sy’n byw yng Nghymru ynghylch eu canfyddiadau o ran newid hinsawdd ac iechyd. Er bod gwaith i ddeall a lliniaru newid hinsawdd yn magu momentwm yng Nghymru, prin yw’r wybodaeth o hyd am farn ac ymddygiad y boblogaeth. Mae data o’r fath yn hanfodol ar gyfer cyd-greu dulliau effeithiol a derbyniol o ymdrin â newid hinsawdd sy’n helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd; targedu negeseuon a gwybodaeth allweddol; a sefydlu datrysiadau hirdymor ar draws Cymru a fydd yn parhau i gael eu cefnogi ar draws sawl cenhedlaeth. Er mwyn mynd i’r afael â’r bwlch hwn, datblygwyd arolwg cyhoeddus i geisio barn y boblogaeth am newid hinsawdd, ei berthynas ag iechyd, eu hymddygiad presennol sy’n ystyriol o’r hinsawdd, eu parodrwydd i gymryd rhan mewn camau gweithredu, a barn am ddatrysiadau polisi. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol yr arolwg, gan roi barn y boblogaeth ar newid hinsawdd ymhlith trigolion Cymru sy’n oedolion.

Awduron: Sara Wood, Karen Hughes+ 3 mwy
, Rebecca Hill, Natasha Judd, Mark Bellis
Chwilio'r holl adnoddau