Mae mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywedd yn hanfodol i wella iechyd a llesiant. Mae’r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol John Moores Lerpwl yn archwilio sut mae profiadau rhyweddol ar draws cwrs bywyd yn cyfrannu at anghydraddoldebau a thlodi plant a rôl croestoriadedd (megis rhoi gofal, aelwydydd rhiant sengl, teuluoedd mwy, teuluoedd ifanc, anabledd, ethnigrwydd ac incwm) wrth lunio profiadau.
Mae’r adroddiad yn nodi opsiynau polisi i Gymru allu ymateb yn fwy effeithiol i’r heriau hyn. Dengys yr adroddiad hefyd feysydd ar gyfer gweithredu. Mae’n nodi bod mynd i’r afael ag anghydraddoldebau rhywedd yn gofyn am gamau sy’n ymatebol i rywedd ar draws y system sy’n cysylltu ar draws polisïau’n ymwneud â’r farchnad lafur, gofal ac amddiffyn cymdeithasol.
Mae Safbwynt Tegwch Rhywedd wrth Leihau Anweithgarwch Economaidd yn naratif sy’n defnyddio lens tegwch rhywedd i archwilio’r lefelau cyson uwch o anweithgarwch economaidd ymhlith menywod yng Nghymru. Mae’n archwilio’r ffactorau sy’n gysylltiedig ag iechyd sy’n arwain at anweithgarwch economaidd ac yn tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer gweithredu polisi i fynd i’r afael â’r heriau hyn a meithrin tegwch rhywedd. Bwriad y naratif yw hysbysu llunwyr polisi, ymarferwyr iechyd y cyhoedd, a phartneriaid ar draws iechyd, datblygu economaidd, a pholisi cymdeithasol.