![](https://icccgsib.co.uk/wp-content/uploads/2024/04/Profiadau-niweidiol-yn-ystod-plentyndod-ac-ymgysylltiad-a-gwasanaethau-gofal-iechyd-Canfyddiadau-o-arolwg-o-oedolion-yng-Nghymru.jpg)
Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) yn gysylltiedig â chanlyniadau iechyd gwaeth ond nid yw eu cysylltiad ag ymgysylltu â gofal iechyd wedi’i archwilio’n ddigonol o hyd, yn enwedig yn y DU. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg ar-lein gydag oedolion sy’n byw yng Nghymru a Lloegr, a ddatblygwyd i archwilio’r cysylltiad rhwng ACEs ac ymgysylltu â gofal iechyd, gan gynnwys bod yn gyfforddus o ran defnyddio gwasanaethau gofal iechyd.