
Archwiliodd yr astudiaeth hon y berthynas rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), profiadau yn yr ysgol a deilliannau iechyd mewn oedolaeth mewn sampl o boblogaeth gyffredinol oedolion Cymru. Canfu fod ACEs a phrofiadau negyddol yn yr ysgol (yn sgil cael eu bwlio ac ymdeimlad is o berthyn i’r ysgol) yn cael eu cysylltu’n annibynnol ag iechyd meddwl gwaeth mewn oedolaeth. Roedd profi ACEs a chael profiadau negyddol yn yr ysgol yn gwaethygu’r risg o iechyd meddwl gwaeth. Mae’r astudiaeth yn nodi’r rôl amddiffynnol y gall ysgolion ei chwarae wrth feithrin gwydnwch ymhlith plant sy’n profi adfyd yn eu cartrefi.