Gall cael eich geni cyn diwedd beichiogrwydd arwain at oblygiadau iechyd tymor byr a gydol oes, ac eto mae’n parhau i fod yn anodd pennu’r risg o enedigaeth cyn amser ymhlith mamau beichiog. Ar draws gwahanol leoliadau iechyd, rhoddir sylw cynyddol i ganlyniadau iechyd ac ymddygiadol profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) megis cam-drin neu esgeulustod, neu ddod i gysylltiad ag amgylcheddau niweidiol yn y cartref (e.e. lle mae’r rhai sy’n rhoi gofal yn camddefnyddio alcohol), a’r gwerth posibl o ddeall y niweidiau cudd hyn wrth gefnogi unigolion a theuluoedd. Mae sylfaen dystiolaeth ryngwladol fawr yn disgrifio’r cysylltiad rhwng profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a chanlyniadau blynyddoedd cynnar i famau a phlant. Fodd bynnag, mae’r berthynas rhwng ACEs mamau a genedigaeth cyn amser wedi cael llai o sylw o lawer.