Mae iechyd rhywiol y boblogaeth carchardai gwrywaidd yn aml ymhlith y tlotaf mewn gwlad. Nod y papur hwn yw nodi effeithiau iechyd ehangach a gwerth cymdeithasol rhaglen hunan-samplu iechyd rhywiol a gynigir i garcharorion gwrywaidd mewn carchar agored yng Nghymru.
Cymhwysodd yr astudiaeth hon ddull peilot unigryw o ddefnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd a Fframweithiau Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi ochr yn ochr. Nodwyd grwpiau rhanddeiliaid allweddol yr effeithiwyd arnynt gan yr ymyriad, ac ymgysylltwyd â hwy trwy weithdai, cyfweliadau a holiaduron i nodi a mesur yr effeithiau ar iechyd a chanlyniadau ehangach. Yna cafodd canlyniadau eu prisio gan ddefnyddio gwerthoedd ariannol dirprwyol i gyflwyno amcangyfrif o werth cymdeithasol cyffredinol y gwasanaeth hunan-samplu.
Yn seiliedig ar sampl fach, mae’r canlyniadau’n dangos bod gwerth posibl o £4.14 wedi’i greu am bob £1 a wariwyd ar y gwasanaeth hunan-samplu yn y carchar. Arweiniodd hyn at gymhareb o £4.14:£1. Roedd tua un rhan o dair o’r gwerth a grëwyd (£1,517.95) wedi’i gategoreiddio fel un adenilladwy yn ariannol. Roedd y gwerth a oedd yn weddill (£3,260.40) yn werth cymdeithasol darluniadol yn unig, er enghraifft llesiant meddyliol gwell.
Mae’r astudiaeth beilot unigryw hon yn dangos effeithiau iechyd a gwerth cymdeithasol ehangach darparu gwasanaeth iechyd rhywiol hunan-samplu i garcharorion mewn carchar agored. Drwy roi prawf arloesol ar ymarferoldeb defnyddio proses Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ochr yn ochr â dadansoddiadau Adenillion Cymdeithasol o Fuddsoddi, mae’r papur hwn wedi amlinellu sut y gellir defnyddio’r fframweithiau mewn synergedd i ddangos nid yn unig adenillion uniongyrchol o fuddsoddi ond hefyd gwerth cymdeithasol darparu gwasanaeth o’r fath.