Cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu â’r cyhoedd dros y ffôn i ofyn i aelodau’r cyhoedd yng Nghymru sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Nod adroddiadau’r arolwg oedd darparu data oedd yn cynrychioli poblogaeth Cymru ac mae’r data wedi ei addasu i gynrychioli poblogaeth Cymru yn ôl oed, rhyw ac amddifadedd.
Mae’r adroddiad yn edrych ar dueddiadau mewn ymatebion i gwestiynau dethol dros y cyfnod pandemig, sy’n cynnwys poeni am coronafeirws, derbyn y brechlyn ac iechyd meddwl a chorfforol. Mae hefyd yn edrych ar wahaniaethau economaidd-gymdeithasol mewn ymatebion i’r cwestiynau hyn a chwestiynau ychwanegol sy’n gofyn sut mae iechyd a lles pobl wedi newid ers cyn i’r pandemig ddechrau.