Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r dystiolaeth ryngwladol o’r adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol ar effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol COVID-19 yn cynyddu’r bwlch iechyd. Mae’n canolbwyntio ar anghydraddoldebau a grwpiau agored i niwed i ddeall a mynd i’r afael yn well â dosbarthiad anghyfartal effeithiau anuniongyrchol sy’n deillio o’r pandemig.
Mae pandemig COVID-19 wedi achosi heriau digynsail i boblogaethau, systemau iechyd a llywodraethau ledled y byd sydd wedi arwain at effeithiau economaidd, cymdeithasol ac iechyd parhaus. Mae anghydraddoldebau iechyd wedi gwaethygu, gyda lefelau heintiad, mynd i’r ysbyty a marwolaethau o COVID-19 yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau poblogaeth. At hynny, mae rhai grwpiau hefyd wedi profi effeithiau anuniongyrchol anghyfartal sy’n deillio o’r pandemig a’r mesurau a gymerwyd i’w atal. Ymhlith y ffactorau sylfaenol sy’n cyfrannu at effaith anghyfartal y pandemig COVID-19 mae lefel amddifadedd, addysg, statws iechyd ac adnoddau ariannol, ond nid ydynt yn gyfyngedig iddynt.