Dechreuwyd ffrwd waith Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol i lywio, ac fel cynnyrch i ymateb esblygol iechyd y cyhoedd i COVID-19 a’r cynlluniau adferiad yng Nghymru. Mae’n canolbwyntio ar dystiolaeth ryngwladol COVID-19, profiad, mesurau ac ymagweddau pontio / adferiad, er mwyn deall ac archwilio atebion ar gyfer mynd i’r afael â’r effeithiau iechyd, lles, cymdeithasol ac economaidd parhaus ac sydd yn dod i’r amlwg (niwed a buddion posibl).
Y pynciau ffocws yw:
Gofal plant cyn-ysgol
Y dull ‘swigen gymdeithasol’
Ailagor trafnidiaeth gyhoeddus
Mewnwelediad i wlad: Seland Newydd
Defnyddiwyd yr adroddiadau hyn yn ystod cyfnod pandemig COVID-19 er mwyn llywio ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac felly maen nhw ar gael yn Saesneg yn unig.