Nid yw annhegwch ym maes iechyd yn anochel. Caiff camau polisi cydgysylltiedig ar benderfynyddion iechyd ynghyd â dulliau llywodraethu sydd wedi’u cynllunio a’u gweithredu’n dda effaith ddeuol ar leihau’r bwlch iechyd a gwella iechyd cyffredinol y boblogaeth. Y canllaw hwn yw’r cynnyrch cyntaf a ddatblygwyd o dan Raglen Waith Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles ac mae’n amlinellu pedwar cam allweddol ar sut i syntheseiddio, trosi a chyfleu tystiolaeth economeg iechyd y cyhoedd yn bolisi ac ymarfer. Mae’r pedwar cam cydberthynol yn arwain y darllenydd drwy’r broses o ddatblygu cynhyrchion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd yn benodol i gyd-destun a chynulleidfa darged. Nod y canllaw yw (i) atal dadfuddsoddi mewn iechyd; (ii) cynyddu buddsoddiad mewn ataliaeth (iechyd y cyhoedd); a (iii) prif ffrydio buddsoddiad traws-sectoraidd er mwyn mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd a thegwch, gan ysgogi datblygu cynaliadwy ar gyfer ffyniant i bawb. Fe’i datblygwyd yn seiliedig ar ymagwedd dull cymysg gan gynnwys adolygiad tystiolaeth, cyfweliadau ag arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol, ac ymgynghoriad rhanddeiliaid aml-sectoraidd oedd yn sicrhau perthnasedd a’r gallu i drosglwyddo ar draws sectorau, cyd-destunau, lleoliadau a gwledydd.

Awduron: Mariana Dyakova, Kathryn Ashton+ 2 mwy
, Anna Stielke, Mark Bellis
Chwilio'r holl adnoddau