Archwiliodd yr astudiaeth hon, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn BMC Public Health, rôl profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (profiadau ACE) a thlodi plentyndod mewn iechyd a ffyniant yn ystod bywyd.
Defnyddiodd yr astudiaeth sampl o 5,330 o oedolion o bum awdurdod lleol yn Lloegr a chanfu fod gan brofiadau ACE gysylltiad sylweddol â thlodi plentyndod. Roedd profiadau ACE a thlodi plentyndod yn gysylltiedig â chanlyniadau bywyd gwaeth, gan gynnwys ar gyfer iechyd hunan-raddedig, cyflyrau iechyd cronig, llesiant meddyliol, cyflogaeth ac incwm.
Mae’r canfyddiadau’n tanlinellu bod angen buddsoddi mewn ymyriadau a pholisïau i atal cylchoedd rhyng-genedlaethol o gam-drin a thlodi.