
Nod yr adnodd hwn yw ein hysbrydoli ni i gyd i leihau anghydraddoldeb iechyd yng Nghymru a thu hwnt ym mhopeth a wnawn, trwy archwilio dulliau i alluogi meddwl hirdymor a rhannu astudiaethau achos sy’n dangos sut mae’r dulliau hynny wedi’u cymhwyso yng Nghymru. Mae’n arwain defnyddwyr trwy nodi tueddiadau perthnasol, cynhyrchu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol, a gosod cwrs ar gyfer dyfodol dymunol. Ymhlith y dulliau a drafodwyd mae sganio gorwelion, triongl y dyfodol, echelinau ansicrwydd, a chynllunio senarios, ymhlith eraill.