Tim Polisi

Mae’r Tîm Polisi yn cydlynu cyfranogiad ‘Iechyd Cyhoeddus Cymru’ mewn ymgynghoriadau, datblygu polisiau a deddfwriaethau sy’n effeithio ar iechyd y boblogaeth, ac yn monitro ohonynt. Nod y tîm yw dylanwadu ar ddatblygiad polisi iechyd cyhoeddus yng Nghymru trwy gydweithio ag ystod eang o bartneriaid yn y sefydliad a’r tu allan iddo. Mae’r tîm hefyd yn cefnogi’r sefydliad trwy ddarparu’r arweiniad a’r diweddariadau diweddaraf mewn perthynas â materion cysylltiedig â COVID-19.

Mae’r meysydd gwaith allweddol yn cynnwys Brexit, yr Economi, Tai a Digartrefedd, Dyfodol a chynllunio hirdymor, a chefnogi Asesiad o’r Effaith ar Iechyd o’r meysydd allweddol wrth weithio gydag Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru.

Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru

Mae gan Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru arbenigedd mewn Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ac integreiddio iechyd, iechyd meddwl, lles ac anghydraddoldebau i’r sectorau nad ydynt yn rhai iechyd. Mae’n gweithio ar draws ystod eang o sectorau a lleoliadau i weithredu dull ‘Iechyd ym Mhob Polisi’.

Mae gwaith diweddar wedi cynnwys Asesiad o’r Effaith ar Iechyd ar oblygiadau posibl Brexit i iechyd y cyhoedd; effaith y polisi ‘Aros gartref a ymbellhau cymdeithasol yng Nghymru ar iechyd mewn ymateb i’r pandemig COVID-19’ a chynhyrchu adnoddau i gefnogi’r broses o integreiddio iechyd a lles â chynllunio gofodol.

Mae’r gwaith presennol a’r gwaith sydd ar ddod yn cynnwys Asesiad o’r Effaith ar y Newid yn yr hinsawdd yng Nghymru, sut mae’r genedl yn wynebu Her Driphlyg Brexit, COVID-19 a newid yn yr hinsawdd a sut y gallai’r pandemig lywio iechyd, lles a gwaith mewn byd ôl-bandemig.

Y Ganolfan Iechyd a Chynaliadwyedd

Wrth gefnogi ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae meysydd gwaith y Ganolfan Iechyd a Chynaliadwyedd yn canolbwyntio ar:

  • Cefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithredu’r Ddeddf, gan gynnwys eu pum ffordd o weithio
  • Meithrin gallu a chefnogi newid yn y system
  • Codi proffil Cymru ar lefel ryngwladol
  • Gwella cynaliadwyedd amgylcheddol a bioamrywiaeth
Iechyd Rhyngwladol

Mae’r timau Iechyd Rhyngwladol yn rhannu profiad a gwybodaeth Cymru â rhanbarthau rhyngwladol tebyg, yn ogystal â helpu i hwyluso gweithgarwch iechyd mewn gwledydd incwm is a chanolig.

Mae’r gwaith allweddol yn cynnwys y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru gan gynnwys pecyn cymorth gweithredu, datblygu menter Adroddiad Statws Ecwiti Iechyd Cymru, a chychwyn ffrwd gwaith corfannu a dysgu’n rhyngwladol sy’n llywio cynlluniau ymateb ac adfer iechyd y cyhoedd COVID-19 yng Nghymru.

Uned Atal Trais

Nod Uned Atal Trais yw atal pob math o drais yng Nghymru drwy fabwysiadu dull iechyd cyhoeddus o atal trais. Mae’r tîm craidd yn cynnwys aelodau o Iechyd Cyhoeddus Cymru, yr Heddlu, Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi a’r sector gwirfoddol. Mae eu meysydd gwaith allweddol yn cwmpasu:

  • Ymchwil a dadansoddi: Mae’r tîm yn comisiynu ac yn cynnal ymchwil epidemioleg i drais a’r hyn sy’n gweithio i atal trais, er mwyn cefnogi partneriaid i ddarparu ymyriadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Rhaglenni ac ymyriadau: Mae’r gwaith tîm yn comisiynu darparwyr gwasanaethau yng Nghymru i ddarparu rhaglenni ac ymyriadau sy’n canolbwyntio ar atal trais difrifol gan bobl ifanc rhag cael eu llywio gan ddull iechyd cyhoeddus.
  • Ymateb gweithredol ac eiriolaeth iechyd y cyhoedd: Mae’r tîm amlasiantaethol yn gweithio gyda cydweithwyr yn y sectorau iechyd, yr heddlu a chyfiawnder troseddol i sicrhau fod ymatebion i drais yn cael eu llywio gan ddull iechyd cyhoeddus o atal.
Rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd

Mae’r rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd wedi datblygu dull Cymru’n gyfan o hyfforddi ac ymarfer ar gyfer ystyried rheiny sydd yn agored i niwed, wedi’i seilio ar ACE a gweithredu dulliau ace a thrawma sy’n seiliedig ar drawma y gellir eu gweithredu ar sail anghenion pob ardal heddlu’n leol.

Mae’r rhaglen Camau Cynnar Gyda’n Gilydd hefyd wedi datblygu rhaglen gadarn ar gyfer gwaith ymchwil a gwerthuso i ymchwilio i effaith ymateb ymyrraeth gynnar ac atal i fod yn agored i niwed mewn plismona a’r system gyfiawnder troseddol.