Cost Ysmygu yng Nghymru

Mae ysmygu yn parhau i fod yn un o brif achosion salwch y gellir ei atal, marwolaethau cynamserol ac anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn darparu asesiad cynhwysfawr o gostau ysmygu mewn perthynas â meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, cynhyrchiant a’r amgylchedd, gan gynnig tystiolaeth gadarn i gefnogi polisïau rheoli tybaco, targedu camau gweithredu lle mae’r baich ar ei fwyaf, a chyflymu cynnydd tuag at Gymru ddi-fwg.
Prif uchafbwyntiau’r adroddiad:
1) Mae ysmygu yn achosi baich ariannol sylweddol yng Nghymru, a chyfanswm y gost o £1.56 biliwn y flwyddyn, a hynny ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, cynhyrchiant, ac effeithiau amgylcheddol.
2) Mae amddifadedd ac anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag ardal yn ysgogiad allweddol i faich ysmygu, sydd yn ei dro yn cynyddu anghydraddoldebau iechyd.
3) Mae colledion o ran cynhyrchiant is a gofal cymdeithasol yn effeithio’n sylweddol ar gost ysmygu yng Nghymru. Mae’r costau hyn yn uwch o lawer na’r refeniw a gynhyrchir gan drethi tybaco.

Awduron: Rajendra Kadel, Brendan Collins+ 6 more
, Chris Emmerson, Mariana Dyakova, Hannah Thomas, Aronrag Meeyai, Cathy Madge, Sumina Azam

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Chwefror 2026 Canfyddiadau Arolwg

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg panel trawsadrannol a gwblhawyd ym mis Chwefror 2026 gan 1,656 o bobl 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru. Cwblhawyd yr arolwg gan ddefnyddio Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus (TTPH), panel a redir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd yn fras yn gynrychioliadol o’r boblogaeth i ymgysylltu’n rheolaidd â’r cyhoedd ar amrywiaeth o bynciau iechyd y cyhoedd.

Y pynciau yn yr arolwg hwn oedd:
– Cartrefi oer
– Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig, a thrais rhywiol
– Ysmygu ail-law
– Tlodi plant.
Os oes gennych ddiddordeb yn nata’r dadansoddiad demograffig sy’n gysylltiedig â’r adroddiad hwn, cysylltwch â [email protected].

Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes+ 1 more
, Charlotte Welch
Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol Rhifyn 10 Mehefin 2026

Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol Rhifyn 10: Mehefin 2026

Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.

Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.

Gweler y rhifyn diweddaraf yma.

Awduron: Jo Harrington, Laura Holt+ 8 more
, Leo Lewis, Jippe Miedema, Henk Hilderink, Keira Charteris, Charlotte Welch, Stanley Ukpai, Mariana Dyakova, Muqaddasa Abdul Wahid

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus: Amgylcheddau bwyd ac ymddygiadau maint dognau yng Nghymru

Deall amgylcheddau bwyd ac ymddygiadau o ran maint dognau yng Nghymru

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg trawstoriadol o 1,460 o bobl 16 oed a hŷn sy’n byw yng Nghymru, a gynhaliwyd drwy banel poblogaeth Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus (TTPH). Roedd y sampl yn gynrychioliadol yn fras o bobl sy’n byw yng Nghymru. Roedd yr arolwg yn archwilio’r mathau o brif brydau bwyd sy’n cael eu bwyta, ymddygiadau amser cinio pan fydd pobl i ffwrdd o’r cartref, ymddygiadau o ran gorffen prydau bwyd, ac ymddygiadau ac agweddau tuag at faint dognau. Nododd dadansoddiad yn ôl nodweddion cymdeithasol-ddemograffig grwpiau poblogaeth sy’n fwy tebygol o fod mewn perygl o ymgymryd ag ymddygiadau sy’n gysylltiedig â byw gyda gorbwysau a gordewdra. Y grwpiau hyn oedd oedolion ifanc, gwrywod, pobl sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, a’r rhai sy’n ystyried eu hunain yn drymach. Mae angen mwy o weithredu i fynd i’r afael â’r hyn sy’n ysgogi’r ymddygiadau hyn.

Awduron: Catherine Sharp, Carys Dale+ 3 more
, Charlotte Welch, Karen Hughes, Ilona Johnson
Sut mae tymheredd y cartref yn effeithio ar iechyd a llesiant mewn aelwydydd incwm isel

Sut mae tymheredd y cartref yn effeithio ar iechyd a llesiant mewn aelwydydd incwm isel: Tystiolaeth o fonitro tymheredd a phrofiad bywyd

Mae’r briff hwn yn cyflwyno profiadau 15 o unigolion sy’n byw mewn aelwydydd incwm isel. Mae’n tynnu ar fonitro tymheredd dan do gwrthrychol a chyfweliadau sy’n archwilio ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ganllawiau tymheredd dan do iach ac effeithiau tymheredd y cartref ar iechyd a llesiant.

Awduron: Hayley Janssen, Daniella Griffiths+ 1 more
, Rebecca Hill
Atal Dementia Gorchudd adroddiad

Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol: Atal Dementia

Mae’r adroddiad hwn, Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol, yn archwilio tystiolaeth fyd-eang ynghylch atal dementia a phwysigrwydd cefnogi iechyd yr ymennydd drwy gydol bywyd unigolyn.

Mae’r adroddiad yn adolygu’r arferion gorau yn rhyngwladol ac yn tynnu sylw at ddulliau llwyddiannus mewn gwledydd sy’n cynnwys y Ffindir, Japan, De Corea, Uruguay, a’r Deyrnas Unedig.

Negeseuon allweddol:

Nid yw dementia yn rhan anochel o heneiddio. Gallai mynd i’r afael â’r ffactorau risg y gellir eu haddasu drwy gydol bywyd unigolyn atal hyd at 45% o’r achosion. Mae gwaith atal effeithiol yn gofyn am gamau gweithredu integredig ar dair lefel:

1. Mae ymyriadau mewn perthynas â newid ymddygiad ar un elfen yn parhau’n seiliau hanfodol, ac yn targedu ffactorau risg unigol fel anweithgarwch corfforol, ysmygu, ynysigrwydd cymdeithasol, camddefnyddio alcohol a cholli clyw neu olwg heb ei drin.

2. Mae ymyriadau mewn perthynas â nifer o elfennau sy’n targedu ffactorau risg lluosog, wedi’u clystyru, yn cynrychioli’r strategaeth fwyaf addawol.

3. Mae mesurau strwythurol ar lefel y boblogaeth fel polisïau ariannol, deddfwriaeth, cyfyngiadau marchnata, ac addasiadau amgylcheddol yn hanfodol i ategu dulliau sy’n seiliedig ar ffordd o fyw.

Awduron: Keira Charteris, Daniela Stewart+ 2 more
, Zuwaira Hashim, Mariana Dyakova
Unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltiad

Unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru: Safbwynt iechyd cyhoeddus

Cydnabyddir fwyfwy fod unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol yn heriau iechyd y cyhoedd. Nod yr adroddiad hwn yw cyflwyno unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru o safbwynt iechyd cyhoeddus. Mae wedi’i fwriadu ar gyfer gweithwyr proffesiynol, y rhai sy’n llunio polisïau ac unigolion eraill sy’n gweithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol ym maes cysylltiad cymdeithasol ac mae’n cynnwys data a thystiolaeth ar: gyffredinrwydd unigrwydd, ynysigrwydd cymdeithasol a chysylltiad cymdeithasol yng Nghymru a’r grwpiau poblogaeth yr effeithir arnynt fwyaf; ffactorau sy’n cynyddu’r risg o unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol; effeithiau ar iechyd a llesiant; tystiolaeth ar atebion; enghreifftiau o arfer da ledled Cymru; a meysydd allweddol i weithredu arnynt yn y dyfodol.

Awduron: Sara Wood, Carys Dale+ 1 more
, Karen Hughes

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus Hydref 2025 Canfyddiadau Arolwg Panel

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol genedlaethol o drigolion Cymru a sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltu rheolaidd â’r cyhoedd i lywio polisi ac arferion iechyd y cyhoedd. Mae’r panel wedi’i ddylunio i fod yn gynrychioliadol yn fras o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg mis Hydref 2025 sy’n ymdrin â: Ffynonellau Gwybodaeth Iechyd, Polisi Iechyd, Iechyd a Llesiant ar ôl Beichiogrwydd, Rhagfarn ar sail Oedran ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes+ 1 more
, Carys Dale
Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol Rhifyn 9 Chwefror 2026

Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol Rhifyn 9: Chwefror 2026

Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.

Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.

Gweler y rhifyn diweddaraf yma.

Awduron: Jo Harrington, Laura Holt+ 5 more
, Karen Hughes, Sara Wood, Joanne C. Hopkins, Keira Charteris, Liz Green

Elfennau gofal brys a’u heffeithiolrwydd: Adolygiad cyflym o dystiolaeth a mewnwelediadau rhyngwladol

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio sut y gall gwahanol gydrannau gwasanaethau gofal brys helpu i leihau’r pwysau ar adrannau brys a chefnogi annibyniaeth cleifion. Gan alw ar yr ymchwil ddiweddaraf drwy adolygiad gwib systematig a mewnwelediadau rhyngwladol, mae’n tynnu sylw at arferion gorau o bob rhan o’r DU ac yn fyd-eang er mwyn llywio dyluniad gwasanaethau gofal brys yng Nghymru. Mae’r adolygiad yn cynnwys ystod o elfennau gwasanaeth gofal brys, gan gynnwys:
• Strategaethau newid tasgau i optimeiddio capasiti ac effeithlonrwydd y gweithlu
• Gwell mynediad at wasanaethau diagnostig, fel radioleg
• Offer clyfar fel brysbennu digidol a systemau cynorthwyo penderfyniadau i staff
• Ehangu canolfannau gofal/triniaeth frys ar gyfer gofal amserol a phriodol
• Gofal brys rhithwir, gan gynnwys ymgynghoriadau ffôn a fideo am gyngor brys

Ynglŷn â’r adolygiad:
Mae’r canfyddiadau’n awgrymu y gall gwasanaethau gofal brys a ddylunnir yn dda ddarparu gofal mwy diogel, cyflym ac effeithiol. Er bod angen rhagor o ymchwil, mae’r dystiolaeth yn tynnu sylw at gyfle addawol i leddfu’r pwysau ar ysbytai a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir.
Gwaith ar y cyd yw hwn rhwng y Gwasanaeth Tystiolaeth (Cyfarwyddiaeth Ymchwil, Data a Digidol) a’r tîm Mewnwelediadau Iechyd Rhyngwladol (Cyfarwyddiaeth Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant).

Awduron: Anamica Patel, Keira Charteris+ 8 more
, Kate Shiells, Laura Johnson, Helen Morgan, Hannah Shaw, Daniela Stewart, Zuwaira Hashim, Kirsty Little, Mariana Dyakova

Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol Rhifyn 8: Hydref 2025

Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.

Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.

Gweler y rhifyn diweddaraf yma.

Awduron: Laura Holt, Jo Harrington+ 3 more
, Israa Mohammed, Simeon Ayoade, Diana De

Cryfhau Iechyd gyda Phartneriaethau Rhyngwladol Teg: Dysgu Allweddol ac Arferion Gorau

Mae gan Gymru gyd-destun deddfwriaethol a pholisi galluogol. Dangosir hyn gan nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o greu ‘Cymru sy’n gyfrifol yn fyd-eang’.

Defnyddiodd y papur trafod hwn adolygiad cwmpasu i archwilio sut mae Cymru a chymunedau rhyngwladol yn cael budd o bartneriaethau cydweithredol. Yr amcanion oedd nodi gwybodaeth bresennol, gwerthuso’r manteision a phennu arferion gorau.

Awduron: James Rees, Joshua Yawo Malcolm+ 2 more
, Jo Peden, Zuwaira Hashim

Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus – Mehefin 2025 Canfyddiadau Arolwg Panel

Mae Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus yn banel cynrychioliadol cenedlaethol o drigolion Cymru. Fe’i sefydlwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i alluogi ymgysylltiad rheolaidd â’r cyhoedd er mwyn llywio polisïau ac ymarfer iechyd y cyhoedd. Cynlluniwyd y panel i gynrychioli poblogaeth Cymru yn gyffredinol yn ôl oedran, rhyw, amddifadedd, ethnigrwydd a bwrdd iechyd. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau o arolwg Mehefin 2025 sy’n cwmpasu: Diabetes math 2, defnydd menig mewn lleoliadau gofal iechyd, anymataliaeth, iechyd deintyddol, newid hinsawdd a polisi iechyd cyhoeddus.

Awduron: Catherine Sharp, Karen Hughes+ 1 more
, Carys Dale

Perthnasoedd cymharol rhwng cam-drin plant yn gorfforol ac yn eiriol, lles meddyliol cwrs bywyd a thueddiadau mewn amlygiad: dadansoddiad eilaidd aml-astudiaeth o arolygon trawstoriadol yng Nghymru a Lloegr

Archwiliodd yr astudiaeth hon y perthnasoedd rhwng cam-drin corfforol a geiriol yn ystod plentyndod a llesiant meddyliol oedolion. Defnyddiodd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn BMJ Open, ddata o arolygon a gynhaliwyd yng Nghymru a Lloegr rhwng 2012 a 2024. Canfu fod cam-drin geiriol yn ystod plentyndod yn gysylltiedig â chynnydd tebyg mewn risg o fod â llesiant meddyliol isel â cham-drin corfforol yn ystod plentyndod. Mesurodd yr astudiaeth hefyd dueddiadau mewn cam-drin corfforol a geiriol a hunan-adroddwyd ar draws y carfanau geni.

Awduron: Mark Bellis, Karen Hughes+ 4 more
, Kat Ford, Zara Quigg, Nadia Butler, Charley Wilson
Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol Rhifyn 7 Gorffennaf 2025

Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol Rhifyn 7: Gorffennaf 2025

Mae Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (CRCI) yn hyrwyddo ac yn rhannu newyddion, digwyddiadau a mentrau rhyngwladol gyda phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt.

Cafodd y cylchlythyr ei dreialu ym mis Mai 2023, ac fe’i cyhoeddir yn chwarterol ers hynny.

Gweler y rhifyn diweddaraf yma.

Awduron: Laura Holt, Jo Harrington+ 4 more
, Daniela Stewart, Zuwaira Hashim, Dr Stanley Upkai, Malek Mhd Al Dali