Mae ysmygu yn parhau i fod yn un o brif achosion salwch y gellir ei atal, marwolaethau cynamserol ac anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn yn darparu asesiad cynhwysfawr o gostau ysmygu mewn perthynas â meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, cynhyrchiant a’r amgylchedd, gan gynnig tystiolaeth gadarn i gefnogi polisïau rheoli tybaco, targedu camau gweithredu lle mae’r baich ar ei fwyaf, a chyflymu cynnydd tuag at Gymru ddi-fwg.
Prif uchafbwyntiau’r adroddiad:
1) Mae ysmygu yn achosi baich ariannol sylweddol yng Nghymru, a chyfanswm y gost o £1.56 biliwn y flwyddyn, a hynny ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol, cynhyrchiant, ac effeithiau amgylcheddol.
2) Mae amddifadedd ac anghydraddoldebau sy’n gysylltiedig ag ardal yn ysgogiad allweddol i faich ysmygu, sydd yn ei dro yn cynyddu anghydraddoldebau iechyd.
3) Mae colledion o ran cynhyrchiant is a gofal cymdeithasol yn effeithio’n sylweddol ar gost ysmygu yng Nghymru. Mae’r costau hyn yn uwch o lawer na’r refeniw a gynhyrchir gan drethi tybaco.