
Pecyn Cymorth Siarter
Diben y pecyn cymorth yw cefnogi gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru.
Diben y pecyn cymorth yw cefnogi gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru.
Nid yw annhegwch ym maes iechyd yn anochel. Caiff camau polisi cydgysylltiedig ar benderfynyddion iechyd ynghyd â dulliau llywodraethu sydd wedi’u cynllunio a’u gweithredu’n dda effaith ddeuol ar leihau’r bwlch iechyd a gwella iechyd cyffredinol y boblogaeth. Y canllaw hwn yw’r cynnyrch cyntaf a ddatblygwyd o dan Raglen Waith Sefydliad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar Fuddsoddi mewn Iechyd a Lles ac mae’n amlinellu pedwar cam allweddol ar sut i syntheseiddio, trosi a chyfleu tystiolaeth economeg iechyd y cyhoedd yn bolisi ac ymarfer. Mae’r pedwar cam cydberthynol yn arwain y darllenydd drwy’r broses o ddatblygu cynhyrchion sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sydd yn benodol i gyd-destun a chynulleidfa darged. Nod y canllaw yw (i) atal dadfuddsoddi mewn iechyd; (ii) cynyddu buddsoddiad mewn ataliaeth (iechyd y cyhoedd); a (iii) prif ffrydio buddsoddiad traws-sectoraidd er mwyn mynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach iechyd a thegwch, gan ysgogi datblygu cynaliadwy ar gyfer ffyniant i bawb. Fe’i datblygwyd yn seiliedig ar ymagwedd dull cymysg gan gynnwys adolygiad tystiolaeth, cyfweliadau ag arbenigwyr cenedlaethol a rhyngwladol, ac ymgynghoriad rhanddeiliaid aml-sectoraidd oedd yn sicrhau perthnasedd a’r gallu i drosglwyddo ar draws sectorau, cyd-destunau, lleoliadau a gwledydd.
Arolygodd arolwg carcharorion ACE boblogaeth carchardai i ddeall faint o ACE yr oeddent wedi’u profi a’r cysylltiadau rhwng ACE a hanesion troseddu.
Mae’r astudiaeth hon yn mynd i’r afael â’r bylchau mewn gwybodaeth am brofiadau oedolion sydd yn geiswyr lloches ac yn ffoaduriaid yng Nghymru o wasanaethau iechyd, er mwyn llywio polisi ac ymarfer gyda’r nod o wireddu uchelgais Cymru i fod yn Genedl Noddfa, a chefnogi’r sylw cyffredinol y mae iechyd yn ei gael yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r canllaw hwn yn nodi deg cyfle polisi allweddol sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer buddsoddi yng Nghymru. Mae cyfleoedd a nodwyd yn yr adroddiad yn mynd i’r afael â meysydd o faich a chost uchel yng Nghymru, gan sicrhau enillion economaidd yn ogystal ag elw cymdeithasol ac amgylcheddol, a chefnogi twf economaidd cynhwysol cynaliadwy. Bydd y canllaw yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i weithredu strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru.
Mae’r erthygl hon yn archwilio’r emosiynau sy’n gysylltiedig ag yfed gwahanol fathau o alcohol, p’un a yw’r emosiynau hyn yn wahanol i ddemograffeg gymdeithasol a dibyniaeth ar alcohol ac a yw’r emosiynau sy’n gysylltiedig â gwahanol fathau o ddiodydd yn dylanwadu ar ddewis pobl o ddiodydd mewn gwahanol leoliadau.
Cyhoeddodd y Ganolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd (IHCC) adroddiad yn tynnu sylw at ei chyflawniadau o ran cefnogi gweithredu’r Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol yng Nghymru. Mae Adroddiad Cynnydd diweddaraf yr IHCC yn amlinellu’r gwaith, y cynnydd a’r cyflawniadau rhwng 2015 a 2017 a wnaed gan yr IHCC a Byrddau Iechyd Cymru ac Ymddiriedolaethau yn y maes hwn. Mae hefyd yn dangos sut y mae’r IHCC wedi esblygu mewn perthynas â datblygiadau byd-eang, y DU, cenedlaethol a lleol.
Ceisiodd arolwg Cadw’n Iach yng Nghymru gael barn trigolion Cymru ar amrywiaeth o faterion iechyd y cyhoedd er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu a gweithredu strategaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru ar gyfer 2018-2030.
Mae heriau iechyd y cyhoedd, anghydraddoldeb, economaidd ac amgylcheddol cynyddol ar draws Rhanbarth Ewropeaidd WHO sy’n gofyn am fuddsoddiad brys er mwyn cyflawni datblygu cynaliadwy (diwallu anghenion presennol heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion) a sicrhau iechyd a lles ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae Strategaeth Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cefnogi cyflawni ein rôl genedlaethol, ein blaenoriaethau strategol a’n hamcanion lles yn llwyddiannus. Mae proses ymgynghori eang, wedi ei hategu gan adolygiad llenyddiaeth a mapio gwaith rhyngwladol a chydweithio ar draws y sefydliad, wedi ein galluogi i nodi tair blaenoriaeth strategol a chwe amcan strategol ar gyfer y deng mlynedd nesaf.
Mae’r adroddiad gwerthuso hwn yn amlinellu canlyniadau’r peilot o gyrsiau Hyfforddi Dinasyddiaeth Fyd-eang i weithwyr iechyd proffesiynol GIG Cymru. Mae’r cynlluniau peilot yn adeiladu ar holiadur cwmpasu o 2015 lle y canfuwyd bod diddordeb amlwg mewn hyfforddiant o’r fath. Gweithiodd yr IHCC ar y cyd â WCIA i ddatblygu a threialu cyrsiau hyfforddi Dinasyddiaeth Fyd-eang mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf fel rhan o’u hymgysylltiad rhyngwladol o dan y Siarter ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol (Saesnyg yn unig).
Nod yr adroddiad hwn yw archwilio’r berthynas rhwng ACE a datblygu clefydau cronig a’r defnydd o ofal iechyd gan oedolion yng Nghymru.
Mae’r adroddiad hwn yn cynnig tystiolaeth ymchwil a barn arbenigol i gefnogi atal afiechyd a lleihau anghydraddoldebau er mwyn sicrhau economi gynaliadwy, cymdeithas ffyniannus a’r iechyd a’r lles gorau posibl ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru.
Dyma’r trydydd mewn cyfres o adroddiadau sy’n edrych ar nifer yr achosion o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACE) ym mhoblogaeth oedolion Cymru a’u heffaith ar iechyd a lles ar draws cwrs bywyd.
Diben yr Ymweliad Astudio hwn oedd rhoi cyfle i rannu syniadau ac ymagweddau ymarferol tuag at gysylltu’r agenda datblygu cynaliadwy ac iechyd a lles y boblogaeth ar draws cyd-destunau strategol a gweithredol.