Mae’r adroddiad hwn yn adolygu’r dystiolaeth ryngwladol o’r adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol ar effaith uniongyrchol ac anuniongyrchol COVID-19 yn cynyddu’r bwlch iechyd. Mae’n canolbwyntio ar anghydraddoldebau a grwpiau agored i niwed i ddeall a mynd i’r afael yn well â dosbarthiad anghyfartal effeithiau anuniongyrchol sy’n deillio o’r pandemig.
Mae pandemig COVID-19 wedi achosi heriau digynsail i boblogaethau, systemau iechyd a llywodraethau ledled y byd sydd wedi arwain at effeithiau economaidd, cymdeithasol ac iechyd parhaus. Mae anghydraddoldebau iechyd wedi gwaethygu, gyda lefelau heintiad, mynd i’r ysbyty a marwolaethau o COVID-19 yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau poblogaeth. At hynny, mae rhai grwpiau hefyd wedi […]
Adroddiad newydd yn canfod y gallai mynd i’r afael ag anghydraddoldeb arbed £322 miliwn bob blwyddyn i ysbytai yng Nghymru
Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan Ganolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Lles, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi canfod y gallai mynd i’r afael ag anghydraddoldeb arbed £322 miliwn bob blwyddyn i ysbytai yng Nghymru. Mae hyn yn cyfateb i ysbyty GIG newydd sbon, neu gyflogau blynyddol bron 10,000 […]
Dinasyddiaeth Fyd-eang
Mae Canolfan Ryngwladol Cydlynu Iechyd, Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio’r adnodd e-Ddysgu Dinasyddiaeth Fyd-eang cyntaf ar gyfer GIG Cymru Mae’r platfform dysgu ar-lein rhad ac am ddim hwn wedi’i anelu at weithwyr iechyd proffesiynol ac i unrhyw un yn GIG Cymru […]
Croeso i’r wefan Iechyd Rhyngwladol newydd
Mae gwefan Tîm Iechyd Rhyngwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn lansio heddiw! Croeso i wefan newydd y Tîm Iechyd Rhyngwladol. Gobeithio y bydd y wefan newydd a’n hadroddiadau yn ddefnyddiol i chi. Mae’r Tîm Iechyd Rhyngwladol yn rhan o Ganolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd y Byd Iechyd Cyhoeddus Cymru. I gael gwybodaeth am Ganolfan Cydweithredu Sefydliad Iechyd […]