1 Gorffennaf 2019

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn sicrhau lle ar Fwrdd EuroHealthNet yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor 2019, 4 – 6 Mehefin 2019, Madrid

Sicrhaodd Iechyd Cyhoeddus Cymru le ar Fwrdd EuroHealthNet er mwyn gallu cryfhau a datblygu ein cydweithrediad a’n partneriaeth â gwledydd, rhanbarthau, sefydliadau a rhwydweithiau ar draws yr Undeb Ewropeaidd ymhellach.  Daeth Dr Mariana Dyakova, sef Arweinydd Iechyd Rhyngwladol, yn aelod o’r Bwrdd yn lle Malcolm Ward a chyflwynodd hefyd bortffolio Canolfan Cydweithredol WHO o’r gwaith […]

27 Mehefin 2019

Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru – Crynodebau

Yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru daw cannoedd o bobl o gefndiroedd amrywiol ynghyd i gydweithio ac i rannu syniadau i adeiladu Cymru iachach. ​ Cynhelir Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus eleni ar ddydd Iau 17 a dydd Gwener 18 Hydref yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, Casnewydd. Bydd cofrestru’n agor yn fuan felly gwnewch nodyn o’r dyddiadau nawr. […]

2 May 2019

Mae angen dull iechyd cyhoeddus i atal eithafiaeth dreisgar

Mae angen gwneud mwy i ddeall y daith sy’n peri unigolion i gyflawni gweithredoedd o eithafiaeth dreisgar. Mae Atal eithafiaeth dreisgar yn y DU: Dull Iechyd Cyhoeddus (Saesneg yn unig) yn annog gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd er mwyn mynd i’r afael â’r ffactorau risg ehangach ar gyfer ymwneud ag eithafiaeth dreisgar sy’n aml wedi’u cuddio […]

16 Ebrill 2019

Ymweliad Swyddfa Fenis Sefydliad Iechyd y Byd â Chymru 8 a 9 Ebrill 2019 – Gosod Cymru ar Frig yr Agenda Ewropeaidd “Bywydau Iach a Ffyniannus i bawb”

Ym mis Mawrth 2018, neilltuodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Ganolfan Gydweithredu WHO ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dyma’r gyntaf yn y byd yn y maes arbenigedd hwn, gan ymuno â rhwydwaith o fwy nag 800 o ganolfannau cydweithredu mewn dros 80 o wledydd.  Mae’n canolbwyntio ar y ffordd […]

16 Ebrill 2019

Prif Weinidog Cymru yn ategu’r croeso i geiswyr lloches a ffoaduriaid: “Ein braint yw eich cael chi yma”

Ar 3 Ebrill, daeth dros gant bobl ynghyd yn y Senedd i ddathlu pa mor bell y mae Cymru wedi dod ar ei thaith i fod yn ‘genedl noddfa’.  Roedd y rheiny â fynychodd yn cynnwys Aelodau’r Cynulliad, uwch weithwyr iechyd proffesiynol, cynrychiolwyr y trydydd sector, pobl sydd yn ceisio noddfa a gwirfoddolwyr sydd yn […]

2 Ebrill 2019

Ceiswyr noddfa a gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn galw am wasanaethau iechyd a llesiant i bawb – adroddiad newydd

Mae pobl sy’n ceisio noddfa, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn cael trafferth cael mynediad i wasanaethau iechyd a llesiant yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe. Nododd pobl sy’n ceisio noddfa eu bod yn teimlo nad oedd eu hanghenion yn cael eu cydnabod, a’u bod wedi profi […]

1 Mawrth 2019

Buddsoddi i arbed: canllaw newydd ar feysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ym maes iechyd a llesiant

A new guide will help de Bydd canllaw newydd yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wella iechyd a llesiant yng Nghymru gyda chamau blaenoriaeth gwerth am arian i atal salwch.Prosperity for All Report Cover WelshMae’r canllaw, Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, yn nodi deg cyfle allweddol sy’n cael […]

19 Chwefror 2019

Mynd yn Fyd-eang

Ymunwch ag Addysg Iechyd Lloegr (HEE) a’r Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol (THET) yn Birmingham wrth iddynt lansio’r gyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer staff y GIG sydd â diddordeb mewn profiad o iechyd byd-eang. I gyd-fynd ag achlysur lansio Strategaeth Gweithlu Byd-eang newydd HEE, a chan ddefnyddio profiad helaeth THET o reoli partneriaethau […]

17 Rhagfyr 2018

Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein 2018

Mae Fforwm Iechyd Ewropeaidd blynyddol Gastein yn dod â gweithwyr iechyd y cyhoedd ynghyd ar draws Ewrop a thu hwnt. Mae’r Fforwm yn dod â gwleidyddion, gwneuthurwyr penderfyniadau, cynrychiolwyr grwpiau â diddordeb ac arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd a gofal iechyd ynghyd ac yn cynnig llwyfan i lunio dyfodol iechyd y cyhoedd yn Ewrop. […]

17 Rhagfyr 2018

Rhaglen Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd yng Nghanada

Cynrychiolwyd Rhaglen Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd (EAT), ymagwedd aml-asiantaeth, wedi ei lywio gan ACE gyda’r nod o drawsnewid plismona bregusrwydd yng Nghymru trwy ymyrraeth gynnar ac ataliaeth sy’n mynd at wraidd y mater, ym 4edd gynhadledd Gorfodi’r Gyfraith ac Iechyd y Cyhoedd Ryngwladol (LEPH) yn Toronto ym mis Hydref. Wedi eu cynnwys yn y ddirprwyaeth […]