Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru – Crynodebau
Yng Nghynhadledd Iechyd Cyhoeddus Cymru daw cannoedd o bobl o gefndiroedd amrywiol ynghyd i gydweithio ac i rannu syniadau i adeiladu Cymru iachach. Cynhelir Cynhadledd Iechyd Cyhoeddus eleni ar ddydd Iau 17 a dydd Gwener 18 Hydref yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol, Casnewydd. Bydd cofrestru’n agor yn fuan felly gwnewch nodyn o’r dyddiadau nawr. […]
Mae angen dull iechyd cyhoeddus i atal eithafiaeth dreisgar
Mae angen gwneud mwy i ddeall y daith sy’n peri unigolion i gyflawni gweithredoedd o eithafiaeth dreisgar. Mae Atal eithafiaeth dreisgar yn y DU: Dull Iechyd Cyhoeddus (Saesneg yn unig) yn annog gwasanaethau cyhoeddus i weithio gyda’i gilydd er mwyn mynd i’r afael â’r ffactorau risg ehangach ar gyfer ymwneud ag eithafiaeth dreisgar sy’n aml wedi’u cuddio […]
Ymweliad Swyddfa Fenis Sefydliad Iechyd y Byd â Chymru 8 a 9 Ebrill 2019 – Gosod Cymru ar Frig yr Agenda Ewropeaidd “Bywydau Iach a Ffyniannus i bawb”
Ym mis Mawrth 2018, neilltuodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) Ganolfan Gydweithredu WHO ar Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant (WHO CC) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Dyma’r gyntaf yn y byd yn y maes arbenigedd hwn, gan ymuno â rhwydwaith o fwy nag 800 o ganolfannau cydweithredu mewn dros 80 o wledydd. Mae’n canolbwyntio ar y ffordd […]
Prif Weinidog Cymru yn ategu’r croeso i geiswyr lloches a ffoaduriaid: “Ein braint yw eich cael chi yma”
Ar 3 Ebrill, daeth dros gant bobl ynghyd yn y Senedd i ddathlu pa mor bell y mae Cymru wedi dod ar ei thaith i fod yn ‘genedl noddfa’. Roedd y rheiny â fynychodd yn cynnwys Aelodau’r Cynulliad, uwch weithwyr iechyd proffesiynol, cynrychiolwyr y trydydd sector, pobl sydd yn ceisio noddfa a gwirfoddolwyr sydd yn […]
Ceiswyr noddfa a gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru yn galw am wasanaethau iechyd a llesiant i bawb – adroddiad newydd
Mae pobl sy’n ceisio noddfa, gan gynnwys ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn cael trafferth cael mynediad i wasanaethau iechyd a llesiant yng Nghymru, yn ôl adroddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe. Nododd pobl sy’n ceisio noddfa eu bod yn teimlo nad oedd eu hanghenion yn cael eu cydnabod, a’u bod wedi profi […]
Buddsoddi i arbed: canllaw newydd ar feysydd blaenoriaeth ar gyfer gweithredu ym maes iechyd a llesiant
A new guide will help de Bydd canllaw newydd yn helpu’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i wella iechyd a llesiant yng Nghymru gyda chamau blaenoriaeth gwerth am arian i atal salwch.Prosperity for All Report Cover WelshMae’r canllaw, Hybu Ffyniant i Bawb drwy Fuddsoddi ar gyfer Iechyd a Llesiant, yn nodi deg cyfle allweddol sy’n cael […]
Mynd yn Fyd-eang
Ymunwch ag Addysg Iechyd Lloegr (HEE) a’r Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol (THET) yn Birmingham wrth iddynt lansio’r gyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau ar gyfer staff y GIG sydd â diddordeb mewn profiad o iechyd byd-eang. I gyd-fynd ag achlysur lansio Strategaeth Gweithlu Byd-eang newydd HEE, a chan ddefnyddio profiad helaeth THET o reoli partneriaethau […]
Fforwm Iechyd Ewropeaidd Gastein 2018
Mae Fforwm Iechyd Ewropeaidd blynyddol Gastein yn dod â gweithwyr iechyd y cyhoedd ynghyd ar draws Ewrop a thu hwnt. Mae’r Fforwm yn dod â gwleidyddion, gwneuthurwyr penderfyniadau, cynrychiolwyr grwpiau â diddordeb ac arbenigwyr ym maes iechyd y cyhoedd a gofal iechyd ynghyd ac yn cynnig llwyfan i lunio dyfodol iechyd y cyhoedd yn Ewrop. […]
Rhaglen Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd yng Nghanada
Cynrychiolwyd Rhaglen Gweithredu’n Gynnar Gyda’n Gilydd (EAT), ymagwedd aml-asiantaeth, wedi ei lywio gan ACE gyda’r nod o drawsnewid plismona bregusrwydd yng Nghymru trwy ymyrraeth gynnar ac ataliaeth sy’n mynd at wraidd y mater, ym 4edd gynhadledd Gorfodi’r Gyfraith ac Iechyd y Cyhoedd Ryngwladol (LEPH) yn Toronto ym mis Hydref. Wedi eu cynnwys yn y ddirprwyaeth […]
Ymweliad Astudio Rhwydwaith Rhanbarthau dros Iechyd (RHN) WHO i Andalusia
Mae Cymru wedi bod yn agos-gysylltiedig â Rhwydwaith Iechyd ar gyfer Rhanbarthau (RHN) Ewrop WHO ers blynyddoedd lawer. Mae aelodaeth o’r rhwydwaith yn rhoi cyfleoedd gwerthfawr i ddatblygu perthynas ag ystod o ranbarthau a gwledydd gwahanol yn Rhanbarth Ewrop WHO, gyda’r bwriad o rannu gwybodaeth am waith yng Nghymru a dysgu o brofiadau rhannau eraill […]