Ymunodd Alice ag Iechyd Cyhoeddus Cymru fel Uwch Arbenigwr Gwyddor Ymddygiad ym mis Chwefror 2022, gan weithio i ddechrau ym maes diogelu iechyd gyda ffocws ar y nifer sy’n cael brechlyn. Symudodd i’r Uned Gwyddor Ymddygiad ym mis Awst ac mae bellach yn cefnogi gwaith sy’n ymwneud â newid hinsawdd, y strategaeth Pwysau Iach: Cymru Iach a meithrin gallu. Cyn Iechyd Cyhoeddus Cymru, bu Alice yn gweithio mewn llywodraeth leol wrth gwblhau ei Doethuriaeth, a oedd yn archwilio sut y gellid defnyddio gwyddor ymddygiad i helpu cynyddu lefelau gweithgarwch corfforol o fewn ystafelloedd dosbarth ysgolion cynradd. Mae ganddi ddiddordeb mewn cynnwys ymchwil ansoddol, gwerthuso a dylunio ymyriadau.